Clychlythyr Mis Awst
Clwb Byd Busnes RhCT
Achlysuron Clwb Byd Busnes
Ydych chi’n chwarae golff?
Mae Clwb Byd Busnes wedi trefnu ei gystadleuaeth golff gyntaf i’w chynnal yng Nghlwb Golff Cwm Rhondda 6ed Medi. Mynnwch frechdan bacwn a chwpaned o goffi yn y clwb cyn dechrau chwarae a chael pryd o fwyd ar ôl gorffen.
Dyma gyfle ichi ymlacio neu dreulio amser gyda chwsmeriaid a phartneriaid busnes posibl. Bydd llawer o wobrau yn cael eu cyflwyno ar ddiwedd yr achlysur gan gynnwys un am y dreif mwyaf hir, un ar gyfer y sawl mae’i bêl ef yw’r un mwyaf agos at y fflag ayyb. I gael rhagor o wybodaeth am yr achlysur ardderchog yma, galwch heibio i www.rctbusinessclub.co.uk neu ffonio Claire ar 01443 424 109.
Yn ôl cwmni LightAge Communications mae gwybodaeth yn holl bwysig
Ydych chi wedi dod o hyd i unrhyw beth ym myd cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth yr hoffech chi wybod mwy amdano? Rhowch wybod inni
Mae cwmnïau llwyddiannus yn dibynnu ar systemau cyfathrebu i roi cymorth i weithgareddau’u busnesau ac mae hynny’n fanteisiol iddyn nhw. Fodd bynnag, mae ystod o wybodaeth yn gallu bod yn ddryslyd weithiau. Beth bynnag yw maint y cwmni, mae rhaid bod elfen o dechnoleg gwybodaeth er mwyn cyfathrebu. Ond sut gellwch chi ofalu eich bod chi’n manteisio i’r eithaf ar eich buddsoddiad ym maes TG?
I roi cymorth ichi fanteisio i’r eithaf ar eich isadeiledd presennol neu i gynllunio ar gyfer dyfodol eich anghenion busnes personol chi, atebwch y cwestiwn uchod trwy anfon neges e-bost i businessclub@rhondda-cynon-taf.gov.uk neu alw heibio i http://www.rctbusinessclub.co.uk/contactus.html.
Bydd noddwr Clwb Byd Busnes LightAge Communications yn rhoi cymorth ichi ddeall byd TG yn ystod ein hachlysur amser cinio ar Fedi 18fed 2007.
Newyddion diweddaraf
Cynigion arbennig i aelodau
A chithau’n aelod o’r Clwb Byd Busnes, peidiwch ag anghofio edrych ar y cynigion sydd ar gael ichi. Mae cynigion newydd i aelodau yn cynnwys South Wales Shedding a DeVines Wines & crystal. Ewch i dudalennau Cynigion i’r Aelodau er mwyn manteisio ar y cynnig ardderchog newydd.
Cyrchwch nawr!
Cyrchwch Wefan Clwb Byd Busnes, www.rctbusiness.co.uk, nawr! Mae hi’n cynnwys rhestr o aelodau o’r Clwb Byd Busnes, cyfleoedd i gadw lleoedd yn ein hachlysuron, rhoi gwybod am newyddion eich cwmni a’ch cynigion a lawrlwytho gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer eich busnes. Os bydd unrhyw sylwadau, adborth neu welliannau gyda chi am y wefan cysylltwch â ni.
Cyfleoedd i noddi
Sut bydd bod yn noddwr yn fanteisiol i’ch cwmni chi?
Trwy noddi gweithgareddau’r clwb bydd manteision hysbysebu ar gyfer eich busnes yn ogystal â manteision sylweddol eraill. Bydd noddi gweithgareddau’n golygu y bydd rhagor o weithwyr proffesiynol yn cael gwybod am eich busnes. Mae amrywiaeth o gyfleoedd mae modd ichi fanteisio arnyn nhw, gan gynnwys noddi achlysur llawn neu noddi categori yn ein Cinio a’n Seremoni Gwobrwyo.
Os hoffech chi hysbysebu’ch busnes trwy noddi un o’n hachlysuron neu os hoffech ddod yn un o’n prif noddwyr ffoniwch Ross Chamberlain ar 01443 665721 neu anfon neges e-bost i businessclub@rhondda-cynon-taff.gov.uk
Aelodaeth
Mae aelodau newydd yn ymuno â Chlwb Byd Busnes trwy’r amser. Fel yr ydych chi’n gwybod, os bydd rhagor o aelodau gyda ni bydd eich profiad rhwydweithio’n well. Os hoffech chi gael lle yn un o’n hachlysuron amser brecwast yn rhad ac am ddim, cyflwynwch aelod newydd i’r Clwb. Ffoniwch Claire Curtis i drefnu hynny.
Mae 11 o aelodau newydd gyda Chlwb Byd Busnes RhCT y mis yma
· DTD Training Ltd
· Crisial Management
· Action COACH – Coaching For Business
· David Garnett Hypnotherapy
· Philtronics Limited
· Hobbin PR
· Greythorne Couriers
· Akros-IT Ltd
· Gyrfa Cymru Morgannwg a Phowys
· DeVine Wines & Crystal
{dad-danysgrifio}
avascript>
{unsubscribe}