Achlysuron Clwb Byd Busnes yn y dyfodol:

TG a Byd Busnes – 18fed Medi 2007

Hoffech chi gael gwybod rhagor ynglŷn â maes cyfathrebu a Thechnoleg Gwybodaeth?

Bydd cwmni LightAge Communications Ltd yn taflu goleuni ar faterion TG ar gyfer eich busnes. Mae busnesau llwyddiannus yn dibynnu ar systemau cyfathrebu yn gefn i’w gweithrediadau ac i fod ar y blaen. Serch hynny, gall cyfoeth yr wybodaeth achosi penbleth. P’un ai’n fusnes mawr neu fach maint, mae angen arnon ni i gyd rywfath o system TG i ddibenion cyfathrebu. Ond sut mae gofalu’ch bod chi’n manteisio i’r eithaf ar eich buddsoddiad TG?

Yn gymorth ichi fanteisio i’r eithaf ar eich system TG presennol neu i gynllunio ar gyfer diwallu’ch anghenion busnes yn y dyfodol, atebwch y cwestiwn uchod a bydd cwmni LightAge Communications, noddwr Clwb Byd Busnes yn rhoi cymorth ichi daflu goleuni ar faterion TG yn ystod ein hachlysur amser cinio ar 18fed Medi 2007 yn Theatr y Colisëwm.

I gael rhagor o fanylion ynglŷn â’r achlysur yma, galwch heibio i www.rctbusinessclub.co.uk neu ffonio Claire ar 01443 424 109.

Newyddion diweddaraf Clwb Byd Busnes:

Aelodaeth

Mae aelodaeth Clwb Byd Busnes yn tyfu o hyd ac o hyd. Fel y gwyddoch, po fwyaf yr aelodau, gwell fyth fydd y cyfleoedd rhwydweithio ar eich cyfer chi.

Aelodau newydd yn ystod y mis yma

· Working Pulse

· Projetclean

· Saurus Ltd

· Connaught Plc

· Glampak Ltd

· Ethos Creative

Ar-lein

Os hoffech chi gynnwys newyddion eich busnes chi ar wefan Clwb Byd Busnes www.rctbusiness.co.uk, anfonwch eich newyddion aton ni. Os oes gyda chi unrhyw sylwadau, adborth neu awgrymiadau ynglŷn â’r wefan, cysylltwch â ni.

Cyfleoedd ar gyfer Noddwyr

Rydyn ni’n edrych ymlaen at Ginio Mawreddog a Seremoni Wobrwyo Clwb Byd Busnes RhCT ac hoffen ni glywed gan aelodau a hoffai fod yn rhan o’r achlysur cyffrous yma. Os oes diddordeb gyda chi i hyrwyddo’ch busnes drwy fod yn rhan o’n Cinio Mawreddog, cysylltwch â: Claire Curtis ar 01443 424109 neu ebost businessclub@rhondda-cynon-taff.gov.uk

Prif ddiben y cyfleoedd yma yw codi proffil EICH cwmni chi. Mae ystod o gyfleoedd ar gael ichi fanteisio arnyn nhw, yn amrywio o noddi’r achlysur cyfan i wobr unigol yn ystod ein Cinio Mawreddog.

Cynigion Arbennig ar gyfer Aelodau

Peidiwch ag anghofio am y cynigion arbennig sydd ar gael i aelodau’r Clwb Byd Busnes.

Galwch heibio i i dudalen Cynigion Arbennig ar gyfer Aelodau ar wefan Clwb Byd Busnes Rhondda Cynon Taf.

Ydych CHI’N manteisio i’r eithaf ar werth eich busnes… neu’n gweithio ar ran y dyn treth yn unig?

Mae nifer o berchnogion busnes yn gorfod treulio blynyddoedd olaf eu bywydau gwaith yn gweithio i dalu’u trethi oherwydd eu bod nhw heb baratoi strategaeth ar gyfer trosglwyddo neu adael y busnes…bob blwyddyn yng Nghymru mae 5,000 o fusnesau yn mynd i’r wal oherwydd diffyg gwaith cynllunio ar gyfer gadael neu olyniaeth…peidiwch â bod yn un o’r rheiny.

Cysylltwch â Business in Focus nawr i ddatblygu’ch cynllun i ofalu’ch bod chi’n manteisio i’r eithaf ar werth y busnes yn ogystal â magu hyder budd-ddeiliaid gyda chynllun TROSGLWYDDO, yn hytrach na cholli miloedd a miloedd o bunnoedd mewn Trethi a cholli cyfle i fanteisio i’r eithaf ar werth eich busnes, a gall yn ei dro effeithio ar eich pensiwn yn fawr iawn, dyfodol y teulu neu hyd yn oed golli’ch busnes yn gyfan gwbl.

Gyda dim ond 25% o berchnogion busnes, sy’n bwriadu gadael eu busnesau, yn dweud bod gyda nhw gynllun gadael yn ei le a dim ond 7% gyda chynllun gadael ysgrifenedig neu gynllun olyniaeth yn eu lle, neu yn y broses o baratoi un…GO ANNHEBYG eich bod chi wedi paratoi ar gyfer gadael neu drosglwyddo’ch busnes na’ch bod chi wedi manteisio i’r eithaf ar werth eich busnes wrth ichi’i ddatblygu ychwaith.

I fynd i’r afael â’r her yma, mae Business in Focus yn cydweithio â William Battle Associates i ddod â rhaglen TROSGLWYDDO profedig i’n clientiaid yn Ne Cymru.

Yn dilyn gwaith ymchwil gan Adran DTI a gwaith ymchwil pellach a gyllidwyd gan ELWa ar faterion Busnesau Bach a Chanolig eu Maint yn Ne Cymru, cafodd y rhaglen DROSGLWYDDO ei datblygu:

§ Paratoi ar gyfer Ymddeol

§ Osgoi neu ddatrys gwrthdaro yn y teulu

§ Diffinio swyddi yn y dyfodol ac anghenion hyfforddi ar gyfer olynwyr yn glir

§ Creu fframwaith ariannol a threthi gyfreithlon gywir

§ Eich rhoi chi wrth y llyw ac arbed miloedd o bunnoedd mewn trethi

§ Gofalu bod y busnes yn goroesi gyda buddion ar gyfer y budd-ddeiliaid i gyd

Ffoniwch Business in Focus nawr ar 0870 950 90 90 i gael eich Asesiad Trosglwyddo/Gadael y Busnes YN RHAD AC AM DDIM.

Llenwch yr holiadur byr yma a byddwn ni’n rhoi cymorth ichi ddadansoddi’r cyfleoedd sydd ar gael a’r peryglon sy’n eich wynebu chi a’ch busnes a rhoi’r camau nesaf ar gyfer eich busnes yn eu lle ac argymell p’un ai bod Cynllun Trosglwyddo yn briodol ai peidio a nodi’r meysydd hynny lle mae angen gweithredu fwyaf.

{unsubscribe}