October Newsletter

Clwb Byd Busnes RhCT Hydref 2007

Mae mis Hydref wrth y drws ac rydyn ni’n brysur paratoi ar gyfer ein Cinio Mawreddog a Seremoni Wobrwyo.
Rydyn ni wedi bod yn brysur iawn, ac felly dyma e-gylchlythyr Clwb Byd Busnes RhCT ar gyfer mis Hydref – mwynhewch!

Mae croeso ichi anfon unrhyw ddeunydd o ddiddordeb ar gyfer y rhifyn nesaf (Tachwedd 2007): businessclub@Rhondda-Cynon-Taf.gov.uk

Dyddiadau i’w nodi

14eg Tachwedd 2007 – Rhwydweithio dros Frecwast
Amser: 7:30 i ddechrau am 8:00
Canolfan: Gwesty Parc Treftadaeth Cwm Rhondda
Rhagor o fanylion

11eg Rhagfyr 2007 – Rhwydweithio dros Ginio
Amser: 12:00 i ddechrau am 12:30
Canolfan: Canolfan Cynhadledda ESIS
Rhagor o fanylion

25ain Ionawr 2008 – Cinio Mawreddog a Seremoni Wobrwyo
Amser: 6:30pm Derbyniad Diodydd
Canolfan: Canolfan Fusnes Prifysgol Morgannwg
Rhagor o fanylion

I gadw lle ar gyfer unrhyw un o achlysuron Clwb Byd Busnes RhCT, cysylltwch â Claire Curtis ar 01443 424109, e-bost businessclub@rhondda-cynon-taff.gov.uk neu alw heibio i’r wefan www.rctbusinessclub.co.uk

Os oes gyda chi unrhyw sylwadau/awgrymiadau ynglŷn â’r achlysuron, Cysylltwch â ni.

Aelodaeth o’r Clwb

Cyfle i rwydweithio dros frecwast yn rhad ac am ddim o gyflwyno aelod newydd i’r Clwb. Cysylltwch â ni os hoffech chi fanteisio ar y cynnig yma.
Mae Clwb Byd Busnes RhCT yn croesawu aelodau newydd

· Design&Event Planning Ltd

· Pc Doctor

· Norris Williams & Company Ltd

· Smoking, Weight and Stress Solutions

Cynigion Arbennig ar gyfer Aelodau

Mae Clwb Byd Busnes RhCT yn falch i gynnig: -

DTD Training Ltd
Pleser yw cynnig gostyngiad o 15% ar gyrsiau Hyfforddi Agored yn ein Swyddfeydd yn Nhredomen i aelodau’r Clwb Byd Busnes.

Live Assistant Business Solutions
Hoffen gynnig gostyngiad o 5 % ar eich anfoneb gyntaf o fanteisio ar wasanaethau cymorth rhithwir sydd i’w cael ar fy ngwefan.

Y manteision ar gyfer Noddwyr

Mae rhaglen o achlysuron Clwb Byd Busnes Rhondda Cynon Taf yn gyfle ardderchog ichi godi proffil eich sefydliad. Mae ystod o gyfleoedd a nifer o fanteision i’w cael o weithio mewn partneriaeth â Chlwb Byd Busnes RhCT. I gael rhagor o fanylion, cliciwch yma.

Y newyddion diweddaraf

Ydy dod o hyd i ffynonellau cyllid priodol yn rhwystro’ch busnes rhag tyfu? Gadewch inni roi help llaw ichi, NAWR!

Yn amlach na pheidio, dod o hyd i ffynonellau cyllid fforddiadwy yw un o’r problemau mwyaf sy’n wynebu busnesau bach a chanolig eu maint rhag ymestyn a thyfu. Mae Business in Focus wedi bod yn rhoi cymorth i fusnesau bach a chanolig eu maint i dyfu a ffynnu ers 21 mlynedd, a chael gafael ar filiynau o bunnoedd o gyllid ar ran ein clientiaid bob blwyddyn.

Mae busnesau bach a chanolig eu maint yng Nghymru yn ddigon ffodus bod cymorth ariannol a chymorth i fusnesau ar gael i sefydlu busnesau a rhoi help llaw iddyn nhw dyfu. Mae gan Business in Focus brofiad helaeth o roi cymorth i’n clientiaid i fanteisio ar ffynonellau cyllid a dod o hyd i ffynonellau cyllid preifat gan rwydwaith ehangach o ffynonellau.

Mae dewis "Dim Ennill, Dim Ffi" Business in Focus ar gyfer dod o hyd i ffynonellau cyllid yn golygu fydd dim costau i’ch busnes. Bydd ein Cynghorwyr Byd Busnes yn rhoi cymorth ichi ddatblygu’ch cynllun busnes, i ddod o hyd i ffynonellau arian grant a chyllid preifat a llenwi ffurflenni cais, gan eich gadael chi’n rhydd i fynd ymlaen â’r hyn rydych chi’n ei wneud orau – rhedeg eich busnes.

Peidiwch â gadael i faterion cyllido atal eich busnes rhag tyfu. Os oes gyda chi gynllun busnes sy’n dangos gwir botensial neu os hoffech chi ddatblygu’ch cynllun busnes sydd ohoni i’w ddangos i ddarpar gyllidwyr, cysylltwch â Business in Focus ar 0870 950 90 90 a gofyn i gael siarad ag un o’u cynghorwyr byd busnes neu alw heibio i www.businessinfocus.co.uk

Cornel Cynghorion

Dyma ran gyntaf o raglen cynghorion cwmni LightAge Communications Ltd.

T.G. Cyngor 1 – Rhoi prawf ar eich system ffeiliau wrth gefn:

Gobeithio bod gyda chi rywfath o system ffeiliau wrth gefn yn ei lle eisoes. Os na - rhowch ystyriaeth i’r hyn sydd yn y fantol - beth fyddai’n digwydd petaech chi’n colli gwybodaeth bwysig megis gohebiaeth, eich cysylltiadau personol, eich cyfrifon ac anfonebau?

Dylai system wrthgefn wneud copi o wybodaeth megis dogfennau word, taenlenni a negeseuon e-bost ac unrhyw feddalwedd a gosodiadau eraill yn ogystal. Gall y broses yma gymryd nifer o oriau, ond y mae modd trefnu amser cyfleus dros nos neu dros y Sul. Mae arbediadau cynyddol yn arbed unrhyw newidiadau sy wedi bod ers arbed y ddogfen y tro diwethaf yn unig, ac felly, bydd arbed ffeiliau yn y dyfodol yn gyflymach o lawer.

Pa system bynnag rydych chi’n ei defnyddio: cd, dvd, zip drive, tâp neu wasanaeth ar-lein, gwiriwch fod y system yn gweithio’n iawn a bod modd ichi adfer eich gwybodaeth yn hawdd pe bai angen gan ofalu mai dim ond ychydig o darfu fydd ar eich busnes.

Clwb Byd Busnes Rhondda Cynon Taf
Canolfan Menter y Cymoedd, Abercynon, CF45 4SN
Ffôn: (01443) 424109
Ebost: businessclub@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Gwefan: www.rctbusinessclub.co.uk

{unsubscribe}