Clwb Busnes RhCT
Seremoni Wobrwyo a Chinio Mawreddog 2010
Dathlu Llwyddiannau Byd Busnes

Unwaith eto mae hi’n amser dathlu llwyddiannau byd busnes gyda Chlwb Busnes Rhondda Cynon Taf wrth i’r Clwb gynnal ei bedwerydd Cinio Mawreddog a Seremoni Wobrwyo.
Mae noson yn ddathliad o gyraeddiadau ardderchog byd busnes sy’n gymorth ichi wella’ch enw da yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel ei gilydd.
Mae’r achlysur wedi mynd o nerth i nerth ers y Cinio Mawreddog cyntaf ac mae’n denu cymorth a buddsoddiadau o du pob math o fusnesau corfforaethol a mudiadau cenedlaethol.
Cynyddu yn ei boblogrwydd mae’r Gwobrau ac maen nhw’n un o achlysuron y flwyddyn erbyn hyn. Dylai achlysur eleni fod yr un gorau erioed wrth i Sara Edwards o’r BBC ei gyflwyno a Nick Newer o raglen The Apprentice areithio.
Os ydych chi o’r farn bod eich busnes yn rhagori yn ei faes, neu’n gwybod am fusnes sy’n haeddu clod, beth am gystadlu yn rhan o wobrau Busnes Rhondda Cynon Taf.