Gwasanaeth Caffael RhCT

Dull Newydd o Drafod Busnes gydag Awdurdodau Lleol

Procurement handshake

Alito yw eich dolen uniongyrchol â Gwasanaethau Caffael yr Awdurdodau Lleol.

Cofrestrwch os oes gyda chi ddiddordeb mewn bod yn ddarparwr gwasanaeth caffael awdurdodau lleol i Gynghorau Rhondda Cynon Taf, Torfaen, Caerdydd, Abertawe a Sir Benfro.

Alito Procurement Portal

Cliciwch yma i fynd i'r wefan

Boed yn gyflenwr, contractiwr, ymgynghorydd neu ddarparwr gwasanaeth ydych chi, gall Alito roi i chi’r holl wybodaeth angenrheidiol er mwyn masnachu’n haws gydag Awdurdodau Lleol yr ardal.

Yn ogystal â rhoi canllawiau a chyngor ar bopeth sy’n ymwneud â phrosesau caffael, drwy Alito gallwch chi hefyd ddod i wybod am ystod eang o gyfleoedd caffael ar draws yr ardal.

Mae’r wefan yn rhoi gwybodaeth a mynediad i chi ar gyfer tri maes penodol.

Rheoli Cyflenwyr

  • Cofrestrwch eich manylion ac ymgeisio am statws rhestr gymeradwy ar gyfer un neu fwy o’r Cynghorau yn yr ardal
  • Cofrestrwch fel cyflenwr posibl lle nad oes rhestr gymeradwy ar gael
  • Cynnal a chadw eich proffil eich hun

Rheoli Tendrau

  • Lawrlwythwch ddogfennau tendro’n electronig
  • Llwythwch ddogfennau tendro a dogfennau eraill yn electronig
  • Edrychwch ar gyfleoedd tendro presennol a rhai sydd i ddod ar y Bwrdd Bwletin cyhoeddus

Rheoli Contractau

  • Gweld manylion contractau sydd wedi’u dyfarnu
  • Gweld manylion eich cofnod hanesyddol

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn croesawu’ch diddordeb mewn cofrestru ar gyfer cyfleoedd caffael.