News
Gwefan newydd sbon ffantastig SAFLE SWYDDI 's
20 Hyd 2009Dros y ddwy flynedd diwethaf rydyn ni wedi profi bod y gwefan arbennig yma yn gweithio. Mae cwmnïau wedi llwyddo i lenwi ei swyddi ac mae’r nifer o ymwelwyr yn tyfu ac yn mynd o nerth i nerth. Mae’r ystadegau yn dangos bod dros 12,000 mil o siaradwyr Cymraeg yn ymweld â’r gwefan bob mis.
Oherwydd llwyddiant a phoblogrwydd y gwefan rydyn ni wedi buddsoddi ac wedi diweddaru’r gwefan i fod yn fwy modern a lliwgar ac mae hyd yn oed "Twitter" a "Facebook" gyda ni!
Mae hyn i gyd yn golygu y bydd mwy a mwy o bobol yn defnyddio’r gwefan a mwy a mwy o gwmnïau yn gallu parhau i recriwtio siaradwyr Cymraeg mewn dull syml a chost effeithiol. Mae hefyd yn helpu i sicrhau fod siaradwyr Cymraeg a dysgwyr yn gallu dod o hyd i swyddi lle y galle’n nhw defnyddio ei mamiaith, yn hawdd, sy’n helpu cadw’r iaith yn fyw. Hwre!!
Diolch o galon i chi am eich cefnogaeth.